Taikabox

Dechreuodd y coreograffydd Tanja Råman a’r artist John Collingswood gydweithio yn 2005 gan sefydlu cwmni tanja råman+dbini industries yn 2010. Newidiwyd enw’r cwmni i TaikaBox yn 2012. Taika yw’r gair Ffinneg am hudolus neu cyfareddol. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi creu nifer o weithiau ar gyfer y llwyfan, sgrin a safleoedd penodol ac wedi teithio ledled y byd. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar gyfuno dawns a chyfryngau digidol, a chyfuno’r corff symudol â haenau o olau, sain a fideo i greu gwaith sy’n arloesol ac yn fynegiannol. Mae Tanja ar hyn o bryd yn un o Dance Buddies Canolfan Gelfyddydau Taliesin yn Abertawe. www.taikabox.com ‘Showreel’ Taikabox