Pal o’ Me Heart

Trwy gyfrwng coreograffi hynod gorfforol, mae’r darn yn archwilio’r berthynas sy’n datblygu rhwng dau ddyn ifanc yng nghyd-destun cythrwfl gwleidyddol Iwerddon ym 1916 ac yn cyfosod y freuddwyd o ryddhad cenedlaethol ag ymchwil am ryddid personol.

Cafodd yr addasiad ar gyfer y dôm ei ffilmio ar leoliad yn Sir Benfro ac yng Nghasnewydd, yng Nghaerdydd ac mewn Awyrendy RAF yn Ne Cymru. Ar gyfer rhai rhannau o’r ffilm, defnyddiwyd y set gwreiddiol, lle caiff y llawr dawnsio ei lenwi â dŵr, symbol o Fôr Iwerddon a pherthynas ddatblygol y ddau fachgen ifanc.

Cyflwynir Pal o’ Me Heart am y tro cyntaf yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn y Dôm Dawns, rhan o’r Dance Base yn y Grassmarket, rhwng 19 a 26 Awst 2013.

YN ÔL I DDEWISLEN Y DÔM DAWNS